
Dyn o Geredigion yn ennill y Groes Fictoria
4/10/1917
Roedd Lewis Pugh Evans o Abermad, ger Aberystwyth, yn Is-gyrnol Dros Dro a Phrif Swyddog Bataliwn 1af Catrawd Swydd Lincoln pan enillodd y Groes Fictoria ‘am ddewrder ac arweiniant amlwg’ yn Passchendaele, Gwlad Belg. Arweiniodd Is-gyrnol Evans ei ddynion drwy fwledi’r gelyn a chipiodd gwn peiriant Almaenaidd gan saethu ei ddryll drwy dwll. Er wedi’i anafu, arweiniodd ei ddynion drwy fwy o fwledi i gyflawni eu bwriad. Gwrthododd help i rwymo’r anaf gan fod eraill angen help a gwnaeth ei ffordd ei hun i’r canolfan cymorth cyntaf.