
Meddyg o Sir Fôn yn ennill y Groes Fictoria
6/11/1917
Gwobrwywyd Capten John Fox Russell o Gorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin gyda’r Groes Fictoria am ei waith yn Tel-el-Khuwwilfeh ym Mhalesteina. Caiff ei adrodd bod Capten Russell wedi dychwelyd tro ar ôl tro i faes y gad i ofalu am y cleifion, er gwaethaf yr holl saethu gan ynnau’r gelyn. Cariodd nifer o ddynion i ddiogelwch. Lladdwyd ef ar y diwrnod hwn yn 24 mlwydd oed.