Cymro yn derbyn y Groes Fictoria ym Mrwydr Cambrai

20/11/1917

Mae’r ymosodiad yn Cambrai, ger y Llinell Hindenburg, yn gweld Prydain yn defnyddio tactegau newydd. Cafodd nifer fawr o danciau eu defnyddio i ymosod ar linellau’r Almaenwyr.

Enillodd Richard Wain, Comander Adran a Chapten Gweithredol Bataliwn A, Corfflu’r Tanciau, y Groes Fictoria ar ddiwrnod cyntaf y frwydr. Tarodd ffrwydryn Almaenaidd danc Wain gan ladd pawb tu fewn ar wahân i Wain ac un arall. Er ei bod wedi’i anafu’n ddifrifol, cipiodd Wain wn peiriant a dechrau saethu at loches y gelyn gan gymryd hanner y dynion yn garcharorion. Parhaodd i saethu ar y gelyn ond gafodd ei ladd yn y broses. Roedd ei weithred yn golygu gallai’r milwyr Prydeinig oedd wedi’u dal yn ôl gan ynnau’r Almaenwyr symud ymlaen. Yr oedd yn byw ym Mhenarth a chaiff ei goffau ar garreg bed ei rhieni yn bentref Sili.