
Y Groes Fictoria i ddyn o Sir y Fflint
26/8/1918
Derbyniodd Henry Weale, Is-gorporal yn y 14eg Bataliwn, Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru, y Groes Fictoria am gipio gynnau’r gelyn yn Bazentin-le-Grand yn Ffrainc. Pan wnaeth gwn Lewis Is-gorporal Weale fethu yn ystod ymosodiad ar y gelyn, penderfynodd ymosod ar y lloches agosaf ar ben ei hun. Llwyddodd i sicrhau’r lloches cyn symud ymlaen i’r un nesaf. Ciliodd y milwyr wrth iddynt ei weld yn agosáu. Cafodd Is-gorporal Weale ei eni yn Shotton, Sir y Fflint, ac yr oedd yn 20 mlwydd oed ar y diwrnod yma.