William Herbert Waring o’r Trallwng yn ennill y Groes Fictoria

18/9/1918

Arweiniodd Is-ringyll William Herbert Waring o’r 25ain Bataliwn, Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru, ei ddynion mewn ymosodiad yn erbyn gynnau peiriant y gelyn. O dan saethu trwm, llwyddodd Waring i gipio 20 o filwyr y gelyn a’u gynnau. Yn anffodus, bu farw Waring yn yr ymosodiad.