Y Llynges Frenhinol yn llwyddiannus yn Ynysoedd y Falkland

8/12/1914

Danfonodd Prydain nifer o longau i Gefnfor yr Iwerydd i ymosod ar sgwadron yr Almaen yn dilyn ei cholled yn Coronel. Roedd Prydain mewn safle llawer gwell i ymosod yn dilyn ymgais y llongau Almaenaidd i gyrchu’r canolfan Prydeinig yn Stanley ar Ynysoedd y Falkland. Ymunodd llongau arall i atgyfnerthu’r fflyd Brydeinig, gan gynnwys HMS Caernarvon, wedi’i enwi ar ôl y dref Gymreig, a HMS Cornwall, a adeiladwyd yn Doc Penfro. Llwyddodd y llongau Prydeinig i ddinistrio’r mwyafrif o longau’r Almaen.