
Deddf Arfau Rhyfel
7/1915
Pasiodd David Lloyd George y Ddeddf Arfau Rhyfel er mwyn rhoi’r diwydiannau oedd yn cyflenwi’r byddinoedd arfog o dan reolaeth fwy tynn. Roedd y ddeddf hefyd yn gwneud hi’n anoddach i weithwyr yn y diwydiannau yma i adael eu swyddi. Roedd rhaid i ffatrïoedd gyflogi menywod i ateb y galw ac i gymryd lle’r dynion oedd yn cael eu galw i ymladd. Daeth rôl menywod hyd yn oed yn fwy pwysig yn dilyn cyflwyniad consgripsiwn yn 1916. Darganfyddwch fwy am rôl menywod yn y rhyfel.