Terfysgoedd Parc Cinmel

no date

Lladdwyd pum dyn ac anafwyd 23 yn ystod terfysg ym Mharc Cinmel, gwersyll milwrol yn agos at Abergele, sir Ddinbych. Dechreuodd y terfysgoedd yn y rhan o’r gwersyll ble’r oedd milwyr o Ganada yn aros. Roeddynt yn anhapus oherwydd yr oedi yn eu danfon adref. Roedd tua 15,000 o filwyr o Ganada yn aros yn y gwersyll ar ôl y rhyfel. Nid oedd yr amodau byw yno yn ffafriol; roedd rhaid i ddynion gysgu mewn ystafelloedd clos ac yr oedd bwyd yn brin.