Yr Almaen yn cyhoeddi ail-ddechrau rhyfela llongau tanfor heb gyfyngiadau

31/1/1917

Cyhoeddodd Kaiser yr Almaen y byddai rhyfela llongau tanfor heb gyfyngiadau yn ail-ddechrau. Golygai hyn y byddai ‘u-boats’ yr Almaen yn targedu nid yn unig llongau rhyfel ond cychod yn cario nwyddau a thanceri heb rybudd hefyd. Cafodd o leiaf 13 cwch eu suddo gan longau tanfor yr Almaenwyr oddi ar arfordir Cymru rhwng 1917 a 1918. Mae esiamplau yn cynnwys y stemar, ‘Cymrian’, cafodd ei fwrw gan dorpido ger Porthcawl yn Awst gan ladd 10 dyn, a’r stemar, ‘Adela’, cafodd ei fwrw ger Ynys Môn yn Rhagfyr a arweiniodd at golled 24 aelod o’r criw.